1,2; 1,3. O ddyfnderoedd! O ddoethineb! O ddyfnderoedd maith o ras! O ddyfnderoedd anchwiliadwy, Fythol uwch eu chwilio maes! Mae seraphiaid nef yn edrych, Gyda syndod bob yr un, Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol - Duw yn marw tros y dyn! O anfeidrol berffaith gariad! Cariad nas gall gras na ddawn, Dynion, na'r angylion penaf, Fyth ei adrodd ef yn llawn. Cariad fydd yn sylfaen gadarn I bob anthem yn y nef; Seintiau ac angylion draphlith Ganant am ei gariad Ef. Fyth i'r Tad y bo'r gogoniant, Ro'i a derbyn y fath rodd; Fyth i'r Mab y bo'r un moliant, Ddisgyn yma i lawr o'i fodd: Fyth i'r Ysbryd b'o'r anrhydedd, Am ddatguddio'r ddyfais rād, Ac am selio a rho'i ernes Fod Eiriolwr gyda'm Tād.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Rhan I - Nid oes angel nid oes seraph Dyma gariad fel a moroedd Fe ro'w'd arno bwys euogrwydd Iesu ei hunan yw fy mywyd O anfeidrol berffaith gariad |
O depths! O wisdom! O vast depths of grace! O unsearchable depths, Forever above searching out! The seraphim of heaven are looking, With surprise every one, At the depths of divine love - God dying for the man! Oh, immeasurable, perfect love! Love which no talent or grace of Men, or the chief angels, could Ever completely record; Love which will be a firm foundation, For every anthem in heaven, Saints and Angels alike, Sing about his love. Forever to the Father be the glory, Give thou who receivest such a give; Forever to the Son be the praise, Who descended here voluntarily: Forever to the Spirit be the honour, For revealing the gracious purpose, And for sealing and giving an earnest That there is an Intercessor with my Father.tr. 2017 Richard B Gillion |
|